Cyfieithu Acen
Os ydych chi’n edrych am ddarparwr cyfieithu dibynadwy, cyfeillgar a hyblyg sy’n cynnig gwasanaeth cost-effeithiol o’r ansawdd uchaf, dyma’r cwmni i chi! Rydym ni’n cynnig gwasanaethau cyfieithu, prawfddarllen a thrawsgrifio wedi’u teilwra’n arbennig i gleientiaid am gyfraddau cystadleuol, ac rydym ni bob amser yn barod i fynd yr ail filltir i sicrhau bod ein cleientiaid yn dychwelyd dro ar ôl tro.
Cyfieithu
Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig i bawb – yn fentrau bach lleol neu’n sefydliadau cenedlaethol, o’r sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector. Rydyn ni’n cyfieithu o Saesneg i Gymraeg, neu o Gymraeg i Saesneg.
Prawfddarllen
Yn ogystal â chyfieithu, gallwn gynnig gwasanaeth prawfddarllen a golygu ar gyfer pob math o ddogfennau. Gall y gwasanaeth hwn olygu unrhyw beth o brawfddarllen i wirio cywirdeb, i fynd gam ymhellach a golygu a diweddaru er mwyn sicrhau bod y dogfennau hyn o safon uchel, ac yn darllen yn naturiol.
Trawsgrifio
Gallwn hefyd gynnig gwasanaeth trawsgrifio. Os oes gennych chi fideo neu glipiau sain yn y Gymraeg neu Saesneg sydd angen eu trawsgrifio, gallwn greu'r trawsgrifiad i chi yn yr iaith wreiddiol neu drawsgrifio cyn mynd ymlaen i gyfieithu’r trawsgrifiadau er mwyn i chi dderbyn y trawsgrifiadau yn ddwyieithog.